Woman of Flowers

Woman of Flowers - Theatr Pena ac Chanolfan Celfyddydau Taliesin

Ddydd Mawrth 13 Chwefror 7.30pm, bydd Theatr Pena yn dod â chwedl hynafol iawn o gariad, bradychu a dialedd i Sefydliad y Glowyr Coed Duon.

Mae Woman of Flowers, cyd-gynhyrchiad cyntaf y Cwmni gyda Chanolfan Celfyddydau Taliesin, yn ail-luniad trawiadol o chwedl y Mabinogion, Blodeuwedd, gan yr ysgrifennwr Gwobrwyol, Siôn Eirian, lle mae'n fedrus iawn yn cyfuno drama farddoniaeth Cymraeg Saunders Lewis, Blodeuwedd, gyda deunydd gwreiddiol i greu ffantasi dywyll dreiddgar.

Mae'r cynhyrchiad Saesneg hwn yn gyfle prin i'ch myfyrwyr (12+ oed) brofi rhywfaint o lenyddiaeth ryddiaith gynharaf Prydain, barddoniaeth Saunders Lewis a chrefft dramodydd cyfoes yng Nghymru.

Bydd tocynnau i fyfyrwyr ar werth am ddim ond £7.50 ac mae athrawon sy'n eu hebrwng yn cael mynediad am ddim (1 athro i 10 myfyriwr).

Mae'r cast yn cynnwys Aelodau Cwmni Theatr Pena, yr actorion gwobrwyol Betsan Llwyd fel y Dduwies, Arianr od, ac Eiry Thomas fel y dewin, Gwydion, a'r actores a'r gantores enwog o Gymru, Olwen Rees, fel morwyn ffyddlon Blodeuwedd, Rhagnell, ac mae Rhys Meredith, bu’n chwarae rhan Tom Wingfield yng nghynhyrchiad enwog Theatr Pena o The Glass Menagerie, yn dychwelyd i'r Cwmni i chwarae'r helwr, Gronw. 

Mae Woman of Flowers yn gynhyrchiad Saesneg.

Am fwy o wybodaeth ffoniwch 01495 227206 neu ewch i'r wefan.

Dangoswch fwy..